Total Pageviews

Llyfr Taliesin ╰⊰¸¸.•¨* WELSH ORTHODOX FLOWERS



Llyfr Taliesin


Mae Llyfr Taliesin (Peniarth 2) ymhlith y cynharaf o lawysgrifau Cymraeg sydd wedi goroesi. Llawysgrif ar femrwn sy'n dyddio o hanner cyntaf y 14g ydyw ond sy'n cynnwys testunau sy'n hŷn o lawer. Mae'r llawysgrif ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o'r casgliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth. Tybir iddi gael ei ysgrifennu yn ne neu ganolbarth Cymru. Math o flodeugerdd o'r cerddi a briodolwyd i Daliesin ydyw.


Ceir testunau Canu Taliesin, cerddi a ystyrir gan rai yn waith y bardd Taliesin (fl. ail hanner y 6g), yn y llawysgrif. Priodolir y cyfan o'r cerddi eraill yno i Daliesin hefyd. Mae nifer o'r rhain yn ymwneud â'r chwedl Hanes Taliesin. Ceir yn ogystal nifer o gerddi darogan, gan gynnwys Armes Prydain, cerddi i arwyr fel Cynan, Gwallog, Alecsander Fawr ac Ercwlff (Hercules), ynghyd â chyfres o gerddi crefyddol a Beiblaidd.



Comments



Welcome...!